Mae Llefydd Llewyrchus Cymru wedi ei seilio ar yr un fethodoleg â Mynegai Llefydd Llewyrchus (ar gyfer Lloegr), ac yn rhannu’r un strwythur Dimensiynau, Parthau ac Is-barthau. Fodd bynnag, mae’r data dangosyddion sy’n cyfrannu at y sgoriau ar y lefelau hyn yn amrywio o ganlyniad i natur ddatganoledig rhai o’r meysydd sy’n dod o dan y dangosyddion. Pan fydd dangosyddion yn amrywio, mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn defnyddio egwyddor ‘ffit-orau’ i atgynhyrchu’r dangosyddion ym Mynegai Llefydd Llewyrchus. Mae mwy o fanylion am sut mae Llefydd Llewyrchus Cymru yn gweithio i’w gweld yn y tab Methodoleg.
Mae sgoriau yn Llefydd Llewyrchus Cymru yn gysylltiedig â chyfartaledd Cymru am y flwyddyn benodol honno. Mae hyn yn golygu na ddylai’r Mynegai gael ei ddefnyddio i gymharu sgoriau un ardal dros amser. Hefyd, bydd newidiadau yn y rhestr ddangosyddion yn effeithio ar gymaradwyedd y sgoriau dros amser.
Oherwydd y gwahaniaeth yn y dangosyddion sy’n cael eu defnyddio, nid yw’n bosibl cymharu ardaloedd yng Nghymru ag ardaloedd yn Lloegr ychwaith.
Yn dibynnu pryd cafodd diweddariadau am ddangosyddion eu cyhoeddi diwethaf a’r cyfnod mae’r rhain yn ei drafod, mae’n bosibl bod rhywfaint o’r data dangosyddion a ddefnyddir yn y diweddariad hwn yn dangos effaith COVID-19 (o Fawrth 2020 ymlaen).
Oherwydd y fethodoleg, mae’r sgoriau dimensiwn yn dangos yr amrywiaeth leiaf o’r cymedr o unrhyw ran o’r Mynegai. Mae’r sgoriau’n amrywio o 3.75 (am Amodau Lleol ym Mlaenau Gwent) i 7.48 (Cydraddoldeb ar Ynys Mon).
Dim ond Castell-nedd Port Talbot Rhondda Cynon Taf a Chaerffili sydd â sgoriau dimensiwn sydd i gyd islaw cyfartaledd Cymru.
Mae gan naw o ardaloedd awdurdod lleol ddau sgôr dimensiwn uwchlaw cyfartaledd Cymru, ac mae gan dair ardal awdurdod lleol, sef Sir Benfro, Bro Morgannwg a Chaerdydd, bob un o’r tri sgôr dimensiwn uwchlaw cyfartaledd Cymru.
Y tri sgôr uchaf ar lefel dimensiynau (Ynys Mon, Gwynedd a Cheredigion) yn y dimensiwn Cydraddoldeb
Amodau lleol
Mae'r dimensiwn amodau lleol hyn yn cynnwys pum parth, sef:
- Lle a'r amgylchedd
- Iechyd meddyliol a chorfforol
- Addysg a dysgu
- Gwaith a'r economi leol
- Pobl a'r gymuned.
Ar lefelau parthau, mae’r sgoriau yn amrywio o 2.33 (am Iechyd meddyliol a chorfforol ym Mlaenau Gwent) i 6.79 yn Sir Fynwy.
Mae ardal pob awdurdod lleol yn sgorio uwchlaw cyfartaledd Cymru am o leiaf un parth.
Mae gan chwech ardal awdurdod lleol o leiaf bedwar sgôr parth uwchlaw cyfartaledd Cymru, gyda Gwynedd a Bro Morgannwg yr unig awdurdodau i wneud hynny ym mhob un o'r pum parth.
O fewn dimensiwn amodau lleol, mae 18 is-barth. Ar lefel hon yr offeryn, gyda llai o ddangosyddion yn cyfrannu at y sgoriau, mae mwy o amrywiaeth yn y sgoriau ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.
Mae'r sgoriau yn amrywio o 0.51 (am Ynysu cymdeithasol yn Nhorfaen) i 8.69 (am Farwolaethau a disgwyliad oes yn Sir Fynwy).
Mae'r sgoriau yn dangos nad oes yr un ardal sy’n dda iawn neu’n wael iawn ar draws pob un o’r is-barthau. Er y gwelir y sgoriau isaf yng Nghymoedd y De yn fwyaf aml, mae gan yr ardaloedd hyn rai o’r sgoriau is-barth uchaf o fewn amodau lleol hefyd. Er enghraifft, er bod gan Flaenau Gwent naw sgôr islaw 3.5 marc, mae ganddo hefyd y sgôr uchaf o bob ardal awdurdod lleol am is-barthau’r Amgylchedd Lleol a Thai.
Yn yr un modd, mae gan ardal awdurdod lleol Merthyr Tudful wyth sgôr is-barth islaw 3.5 marc, ond y sgôr uchaf am swyddi Da.
Ar ben arall y raddfa, mae gan Bowys saith sgôr uwchlaw 6.5 marc, ond y sgôr isaf yng Nghymru am Drafnidiaeth.
Cynaladwyedd
Mae'r dimensiwn Cynaladwyedd bellach yn cynnwys tri is-barth, sef:
- Seilwaith gwyrdd
- Gwastraff
- Defnydd ynni.
Mae'r sgoriau yn yr is-barthau hyn yn amrywio o 1.25 am ddefnydd Ynni yng Nghastell-nedd Port Talbot i 6.82 yn Nhghaerdydd. Fodd bynnag, mae gan Gastell-nedd Port Talbot y pumed sgôr uchaf hefyd o’r holl ardaloedd awdurdod lleol am seilwaith Gwyrdd.
Mae gan dair ardal awdurdod lleol sgoriau is-barth islaw cyfartaledd Cymru: Ynys Mon, Gwynedd a Sir Fflint.
Mae gan dau ardal awdurdod lleol (Pen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd) sgoriau uwchlaw cyfartaledd Cymru ym mhob un o’r tri is-barth.
Cydraddoldeb
Mae gan y dimensiwn Cydraddoldeb dri is-barth:
- Anghydraddoldeb iechyd
- Anghydraddoldeb incwm
- Anghydraddoldeb cyflogaeth.
Mae'r sgoriau yn amrywio o 2,34 (am anghydraddoldeb Cyflogaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot) i 9.20 (am anghydraddoldeb Iechyd yng Ngwynedd). Fodd bynnag, mae Castell-nedd Port Talbot hefyd yn sgorio uwchlaw cyfartaledd Cymru am yr anghydraddoldeb Iechyd.
Mae Sir Ddinbych a Pehn-y-Bont ar Ogwr sgorio islaw cyfartaledd Cymru ym mhob un o’r tri is-barth.
Mae tair ardal awdurdod lleol yn sgorio uwchlaw cyfartaledd Cymru ym mhob un o’r tri is-barth: Ynys Mon, Gwynedd a Sir Ddinbych ac Abertawe.